picture of a man and a woman

Croeso i'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd

Croeso i dudalen gartref y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, asiantaeth o´r llywodraeth a grëwyd i roi cefnogaeth weinyddol gyffredinol i brif dribiwnlysoedd y llywodraeth ganolog. Mae´r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder a´i lansio oedd y newid mwyaf yn system tribiwnlysoedd y wlad hon ers bron i hanner canrif.

Mae tribiwnlysoedd yn rhan bwysig o´r system cyfiawnder, gan drin mwy o achosion bob blwyddyn naa´r llysoedd sifil cyffredin, a llawer ohonynt yn cynnwys y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Ar y safle hwn, cewch wybodaeth am y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn gyffredinol a dolenni at bob un o´r tribiwnlysoedd sydd, at ei gilydd, yn ffurfio´r Gwasanaeth.

English Great Britain Flag Icon